Y ddawns

Yng Nghymru...

Ceir tri gr?p o ddawnsfeydd traddodiadol: dawns y glocsen, dawnsfeydd y ffair, a dawnsfeydd y llys.

Caiff dawns y glocsen ei dawnsio fel arfer gyda chlocsiau ac ysgub. Gall y dynion gystadlu â’i gilydd, gan arddangos eu sgiliau dawnsio ac acrobateg trawiadol.

Gwneir dawnsfeydd y ffair i gyfeiliant fiolin fel arfer. Maent yn ddawnsfeydd rhyddmig. Mae Rali Twm Siôn a G?yl Ifan yn ddwy esiampl o’r rhain.

Gwneir dawnsfeydd y llys i gyfeiliant telyn fel arfer. Maent yn fwy ffurfiol. Cynhwysir Rîl Llanofer, Meillionen a Rhisiart Annwyl yn y gr?p yma.

Gall y piano, y ffliwt a’r acordion fod yn gyfeiliant i’r dawnsfeydd hefyd.

Nid oes llawer o lefydd i ddysgu’r dawnsfeydd hyn. Dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf, maent wedi dod yn boblogaidd eto, yn enwedig ymysg y bobl ifanc. Bydd cymdeithasau weithiau’n trefnu Twmpathau (nosweithiau dawns), lle gall y rhai sy’n cymryd rhan ddysgu sut i ddawnsio. Mae’r grwpiau dawns hefyd yn arddanos eu dawnsio ac yn cystadlu mewn Eisteddfodau. Ceir gwahanol fathau o Eisteddfodau – y rhai lleol a’r rhai cenedlaethol. Mae’r Urdd yn trefnu un ar gyfer pobl ifanc. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer pawb. Ceir g?yliau hefyd ar gyfer canu a dawnsio (Yr ?yl Gerdd Dant).

Cynhyrchir y defnydd ar gyfer y dillad ym melinau’r ardal. Maen nhw’n parhau i fod fwy neu lai yn union fel y rhai a gafwyd mewn canrifoedd a fu ac maent yn amrywio gyda’r dawnsfeydd.

Yn Llydaw...

O’r blaen, priodasau oedd y prif gyfle ar gyfer dawnsio yng nghefn gwlad Llydaw. Roedd gan bob rhan o Lydaw eu dawnsfeydd eu hun ac roedd pobl yn cwrdd i ddawnsio am oriau. Yn ystod y pedwardegau, wedi’r rhyfel, cafodd rhai “cercles celtiques” (gr?p o ddawnswyr) a bagadous (gr?p o gerddoriaeth draddodiadol) eu creu. Heddiw, caiff mwy a mwy eu denu i’r fest-noz (noson o ddawnsio Llydewig) a’r fest-deiz (os yw’n digwydd yn ystod y dydd), dechreuwyr neu beidio, pobl ifanc neu h?n.

Mae’r fest-noz a’r fest-deiz yn rhoi cyfle i bobl ddawnsio a rhannu eu hoffter a’u diddordeb mewn dawnsio Llydewig. Mae’n drawiadol o hyd i weld y bobl yn heidio i’r llawr dawnsio (yn aml, iard fferm syml) wrth i nodyn gyntaf y gerddoriaeth gael ei chwarae. Ceir amryw i fest-noz yn yr haf, yn enwedig yng Ngorllewin Llydaw, lle caiff un ei chynnal bron bob nos.

Mae’r “cercles celtiques” yn cymryd rhan mewn nifer o’r cystadlaethau yn ystod y g?yliau (G?yl Cornouaille yn Quimper , G?yl de la Saint-Loup er enghraifft), ac yn arddangos dawnsfeydd Llydewig. Maent yn gwisgo yr un math o wisgoedd ag yn y dyddiau a fu ac mae rhai merched yn brodio eu gwisgoedd eu hunain. Mae’r gwisgoedd yn amrywio yn ôl rhannau gwahanol o Lydaw.

Mae’r gavotte, yr An dro, y Laridé, y Plinn, y rond de Saint-Vincent, yn rhai enghreifftiau o ddawnsfeydd poblogaidd. Mae gan rai dawnsfeydd amrywiolion sy’n dod o wahanol rannau o Lydaw (gavotte des montagnes, gavotte de l’Aven…).

| | Site Map | Follow-up of the site's activity RSS 2.0