Plogoneg

Mae Plogonnec yn bentref gwledig 54 cilomedr sgwâr sydd â 3000 o drigolion. Mae wedi’i lleoli i’r de o ranbarth y Finistère yng ngorllewin Llydaw rhwng Quimper (8 milltir) a Douarnenez (6 milltir). Yr enw Llydewig ar y pentref yw Plogoneg, sy’n golygu “plwyf (ploe) Sant Coneg” (neu Saint-Egonnec).

Mae tair rhan i’r pentref: y canol, y Croëzou ar y ffordd i Quimper, a Saint-Albin ar y ffordd i Quemeneven.

JPEG - 30.7 kb
canol
JPEG - 40.8 kb
JPEG - 33.5 kb
St-Albin


Mae llawer o bobl yn gweithio yn y trefi cyfagos er bod well ganddynt fyw yng nghefn gwlad ym Mhlogonnec. Fodd bynnag, nid yw Plogonnec yn dref noswylio yn unig. Mae ynddi yr holl bethau sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd. Mae’r siopau a’r gwasanaethau amrywiol yn caniatáu i lawer o bobl weithio yno ac mae yna dair ysgol gynradd sydd, gyda’i gilydd, yn derbyn 300 o ddisgyblion o’r dref a’r ardal.

Y gwasanaethau :

Fel ym mhob tref, y “mairie” (math o gyngor cymuned) yw cynrychiolwyr lleol y Llywodraeth. Maent yn gyfrifol am gynllunio trefol, statws dinesig a ffyrdd. Caiff cynghorwyr y dref eu hethol gan y boblogaeth am 6 blynedd ac maent yn gyfrifol am addysg, gwasanaethau cymdeithasol, twristiaeth, chwaraeon, trafnidiaeth gyhoeddus, diwylliant ayb. Dyma’r mairie sydd hefyd yn gyfrifol am bethau fel d?r, goleuadau stryd ac ymddangosiad y pentref.

JPEG - 48.6 kb
Y "Mairie"

Mae gan Blogonnec ganolfan hamdden, neuaddau, llyfrgell sy’n cynnig mynediad i’r Rhyngrwyd, caeau chwarae ayb. Mae yna wasanaeth bws rhwng Plogonnec a Quimper, sydd o gymorth mawr i’r bobl sydd heb gludiant (yn enwedig y bobl ifanc) am ei fod yn eu galluogi i fod yn fwy annibynnol.

JPEG - 47.1 kb
Llyfrgell
JPEG - 33 kb
Neuadd
JPEG - 33.3 kb
Canolfan hamdden


Mae meddygfa, deintyddfa, ffisiotherapydd, nyrsys, fferyllfa a nifer o wasanaethau eraill fel cyfreithwyr, banciau a milfeddygon ayb ar gael yn y pentref.

Masnach :

Nid oes angen mynd i siopa yn y trefi cyfagos bob amser gan fod masnachwyr a chrefftwyr Plogonnec yn darparu’r nwyddau sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd a mwy. Mae archfarchnad, siop fara, siop gig, gwesty a bwyty, caffi grempog, siop trin gwallt, tafarndai, siop ddillad, garejys, siop amaethyddol gydweithredol, canolfan marchogaeth, siop drydan ayb ym Mhlogonnec ers blynyddoedd.

Ysgolion : (2003-2004)

Mae tair ysgol gynradd ym Mhlogonnec: dwy ysgol wladol ac un ysgol breifat.

Mae un ysgol wladol, Paul Gauguin, yng nghanol y pentref ac mae ganddi 150 o ddisgyblion. Mae’r ysgol wladol arall yn Saint-Albin ac mae ganddi 36 o ddisgyblion. Dyma’r ysgol hynaf yn y pentref. Enw’r ysgol breifat yw Saint-Egonnec. Mae’r ysgol hon hefyd yng nghanol Plogonnec ac mae ganddi 100 o ddisgyblion. Mae’r tair ysgol ar agor 4 diwrnod yr wythnos (nid yw’r ysgolion ar agor ar ddydd Mercher).

JPEG - 35.3 kb
Ysgol Paul Gauguin
JPEG - 37 kb
Ysgol St-Egonnec
JPEG - 35.7 kb
Ysgol yn St-Albin


Mae Plogonnec yn le sy’n elwa ar harddwch a thawelwch cefn gwlad, ac mae wedi’i lleoli tua 7 milltir o lan y môr Bae Douarnenez. Mae’r nodweddion hyn yn denu llawer o dwristiaid a chânt gyfle i aros yn y gwestai, y lletyau gwely a brecwast a’r mannau gorffwys yn y pentref. Yn ogystal, mae stad newydd o dai yn cael ei hadeiladu yn agos at ganol y dref ar ffordd Saint-Albin a fydd yn gyfle i bobl newydd, hen neu ifanc, ymgartrefi yn y dref a’i wneud yn fwy deinamig.

JPEG - 26.9 kb
| | Site Map | Follow-up of the site's activity RSS 2.0