O’r 5ed i’r 19eg ganrif
Hen-Lydaweg a Hen Gymraeg: o’r 5ed ganrif Llydaweg Canol a Chymraeg Canol: o’r 11eg ganrif Llydaweg a Chymraeg cyfoes: o ddiwedd y 16eg ganrif
Hen Lydaweg a Hen Gymraeg: o’r 5ed ganrif
Dim ond ychydig o gofnodion sydd gennym am Hen Gymraeg a Hen Lydaweg. Mae’r defnydd o’r ieithoedd yn cael ei gadarnhau gan arysgrifau a nodiadau a sylwadau sydd wedi eu hychwanegu at destunau Lladin a gan enwau pobl a lleoedd.
Gwelir rhai detholiadau o Hen Gymraeg mewn ffynonellau tebyg fel Historia B’rrittonum gan Nennius yn yr 8fed ganrif.
Y llawysgrif hynaf a wyddom amdano heddiw yn yr Hen Lydaweg yw traethawd dwy dudalen ar feddyginiaeth sy’n dyddio o ddiwedd y 7fed ganrif. Mae hwn wedi ei gadw’n ddiogel yn yr Iseldiroedd.
Ym Mhrydain ynysig ac Armorica y mynachod a gyfieithodd a chop?o’r testunau. Fe wnaethon nhw, y beirdd a chefnogaeth yr uchelwyr chwarae rhan bwysig yng nghadwraeth y diwylliant.
Yn hanesyddol…
* Ym Mhrydain ynysig, arhosodd Cymru yn annibynnol er fod bygythiadau oddi wrth yr Eingl-Sacsoniaid. Rhwng 757 a 796 A.D., adeiladodd Offa, brenin Mersia, fur a chlawdd i wahanu y Celtiaid a’r Sacsoniaid.
Yn y 9fed ganrif, cadwodd Cymru, Cernyw a rhan o’r Alban eu hannibyniaeth. Yng Nghymru, Gwynedd, yn y Gogledd, oedd y deyrnas gryfaf a rheolwyd hon gan y Brenin Rhodri Mawr. Sicrhaodd ef undod gwleidyddol i Gymru ond ar ôl ei farwolaeth yn 877 rhannwyd ei diroedd rhwng ei ddau fab.
Rhwng y 10fed a’r 11eg ganrif, unwyd Cymru yn rhannol sawl gwaith ond dim ond Gruffydd ap Llywelyn a lwyddodd i uno’r wlad gyfan. Ond roedd yr undod yn sigledig am fod y teyrnasoedd a orchfygwyd bob amser yn barod i wrthryfela a chymryd eu hannibyniaeth yn ôl. Yn ystod y cyfnod hwn roedd rhannau o Gymru yn barod i dalu gwrogaeth i Loegr.
Ar ddiwedd yr 11eg ganrif, roedd y Normaniaid, a oedd eisoes wedi gorchfygu Lloegr, yn awyddus i orchfygu Cymru ond er iddynt gael peth llwyddiant yn y Gogledd a’r Gorllewin, nid oeddent yn gallu gorchfygu’r wlad gyfan.
* Yn Llydaw yn ystod y cyfnod hwn cafwyd cyfnodau o rhyfel a heddwch rhwng y Llydawyr a Ffrancwyr yn dilyn eu gilydd. Yn 578, amddiffynnodd Waroc lannau’r afon Vilaine, a oedd y ffîn rhwng teyrnasoedd y Llydawyr a’r Ffrancwyr, yn erbyn y Ffrancwyr yn llwyddiannus. Daeth yn arwr yn y frwydr am annibyniaeth.
Yn 635, gwahoddodd Brenin Dagobert, Judicaël, Dug Domnonée (gogledd Llydaw), i’w lys. Ar ôl ymgynghori gyda chynrychiolwyr Cornouaille (de-orllewin Llydaw) a Bro Waroc (tiroedd o amgylch Vannes, lle oedd canolfan Waroc) cyfarfu â Dagobert a chydnabyddodd awdurdod y brenin Ffrengig yn enw holl bobl Llydaw. Oherwydd hyn, sefydlwyd cyfnod hir o heddwch rhwng y ddwy deyrnas.
Yn y 9fed ganrif, ymladdodd Nominoé i gadw Llydaw yn ddugaeth annibynnol a churodd byddin Charles le Chauve ym Mrwydr Ballon (ger Redon) yn 845. Ar ôl ei farwolaeth parhaodd ei fab Erispoé i frwydro am annibyniaeth. Ehangodd ei diriogaeth a sefydlodd Llydaw fel teyrnas annibynnol.
Ond roedd cyfnodau tywyllach i ddod i Lydaw gyda chyrhaeddiad y Normaniaid.
Llydaweg Canol a Chymraeg Canol: o’r 11eg ganrif.
Yn annhebyg i’r Hen Gymraeg, mae digon o ddogfennau ysgrifenedig ar gael o gyfnod Cymraeg Canol. Roedd barddoniaeth yn bwysig iawn ac roedd yn aml yn sôn am fedr milwrol yr uchelwyr a oedd yn noddi’r beirdd trwy gynnal eisteddfodau. Bardd enwocaf y cyfnod yw Dafydd ap Gwilym a ysgrifennodd am natur a chariad. Mae yn enwog tan heddiw.
Dechreuodd y gwahanol dafodieithau ymddangos. Ar ôl y 15fed ganrif newidiodd yr eirfa a’r sillafu. Siaredir Cymraeg drwy’r wlad ac er i rai Saeson a Ffrancwyr ymgartrefi yno roedd mwyafrif y trigolion yn uniaith Gymraeg.
Roedd yn stori wahanol yn Llydaw. Trodd yr uchelwyr eu cefnau ar y Lydaweg. Ar ôl dianc rhag y Normaniaid yn y 10fed ganrif a llochesu mewn gwledydd cyfagos mabwysiadasant arferion ac iaith y wlad lle ymgartrefasant ynddo. Pan ddychwelasant i Lydaw roedd ei disgynyddion wedi eu ffrengigo.
Yn 937 nid oedd y Lydaweg i’w chlywed yn Naoned, prif ddinas y wlad. Daeth y llys yn gynyddol Ffrengig ac ymgiliodd y Lydaweg i’r gorllewin. Sefydlogodd ffin yr iaith yn y 12fed a’r 14ed ganrif ar linell oedd yn ymestyn o Dinan i’r Brière.
Newidiodd yr iaith Lydaweg o dan ddylanwad y Ffrangeg. Ychwanegwyd peth geirfa, diflannodd rhai llythrennau mewn rhai geiriau a symudodd yr acen. Tua diwedd y 16eg sefydlwyd tafodieithau Kerne, Leon and Tregor (K,L,T).
Yn hanesyddol...
* Yng Nghymru, elwodd Llywelyn ab Iorwerth, tywysog Gwynedd (1195-1240), oddi wrth rhyfel gartref yn Lloegr a gorchfygodd holl deyrnasoedd annibynnol Cymru. Er mwyn sicrhau fod Cymru yn parhau fel gwlad unedig ar ôl ei farwolaeth, gwnaeth ei fab Dafydd yn unig etifedd. Ond syrthiodd y deyrnas oherwydd ymosodiadau o Loegr.
Adferodd Llywelyn ap Gruffydd (1246-1282) undod y wlad a chymrodd y teitl Tywysog Cymru yn 1258. Ailfeddianodd y rhannau o Gymru a oedd yn nwylo Saeson a mynnodd fod brenin Lloegr, Harri’r III, yn cydnabod ei deyrnas a’i deitl yng Nghytundeb Maldwyn yn 1267.
Yn 1272, olynodd Edward I Harri’r III a dechreuodd ef ymgyrch o ymosodiadau ar Gymru. Ar ôl pum mlynedd roedd ei fyddinoedd yn ne-orllewin a chanolbarth Cymru. Trechwyd Llywelyn a rhoddwyd y tiroedd yn ôl i’r perchenogion blaenorol. Ym Mawrth 1282 gwrthryfelodd ei frawd Dafydd. Cefnogodd Llywelyn ef ond bu Llywelyn farw mewn brwydr yng Nghilmeri o dan amgylchiadau amheus. Trechwyd Dafydd a dienyddiwyd ef gan y Saeson ym Mehefin 1283. Gosodwyd rheolaeth Lloegr ar Gymru yn Statud Rhuddlan yn 1284. Hon oedd y cam cyntaf i feddiannaeth lwyr. Yng Nghymru adeiladodd y Saeson drefi o amgylch cestyll caerog a gwaharddwyd y Cymry rhag cael mynediad i’r trefi heblaw ar fusnes.
Dilynwyd hyn gan nifer o wrthryfeloedd mewn ymdrech i adennill annibyniaeth. Yr enwocaf ohonynt oedd gwrthryfel Owain Glyndwr o 1400 tan 1410. Fel pennaeth Glyndyfrdwy yn ne-orllewin Cymru adenillodd annibyniaeth i Gymru. Serch hynny, adenillodd y Saeson reolaeth o’r rhan fwyaf o Dde a Chanolbarth Cymru yn 1408. Parhaodd Glyndwr gyda’r wrthryfel ym mynyddoedd Gogledd Cymru tan 1410.
Ar ôl hynny dechreuodd gormes wrth- Gymreig a chyda’r Ddeddf Uno yn 1536 cysylltwyd Cymru i Loegr. Gwnaethpwyd Saesneg yr unig iaith swyddogol. Bwriad Lloegr oedd sicrhau diflaniad yr iaith a’r diwylliant Cymraeg.
* Yn Llydaw
Gwnaethpwyd Harri’r II o Plantagenet yn iarll Naoned am gynorthwyo Conan i ennill grym yn 1156. Ar ôl cipio Llydaw am y tro cyntaf, er sawl gwrthryfel, llwyddodd i osod ei fab Geoffrey Plantagenet fel Dug Llydaw
Yn 1341, ar farwolaeth Jean III, taflwyd Llydaw i rhyfel olyniaeth a barodd am 25 mlynedd. Roedd brenhinoedd Ffrainc a Lloegr, a oedd wedi bod yn rhyfela ers 1337 (Y Rhyfel Can Mlynedd), hefyd yn gweld y sefyllfa yn strategol diddorol.
Yn 1491, bu rhaid i Anne, Duges Llydaw, briodi Siarl VIII, Brenin Ffrainc ac, ar ei farwolaeth ef, ei olynydd, Louis XII, yn 1499. Sicrhaodd y briodas ddiweddaraf fod sefydliadau, hawliau a breintiau yn cael eu gwarchod a sicrhawyd fod eu plentyn ieuengaf yn olynydd i’r dugiaeth ( roedd yr hynaf yn olynydd i goron Ffrainc).
Yn 1532, cysylltwyd Llydaw yn llwyr i Ffrainc gyda’r Ddeddf Uno. Cadwodd y ddeddf hon hawliau a breintiau cyllidol, cyfreithiol a chrefyddol. Ni ellid codi trethu yn Llydaw heb gytundeb Taleithiau Llydaw ac nid oedd yn bosibl cael Llydawr o flaen llys barn tu allan i Lydaw.
Yn 1539 arwyddodd François I orchymyn Villers-Cotterets, a oedd yn mynnu fod pob deddf swyddogol yn cael ei hysgrifennu yn Ffrangeg i warchod y Ffrangeg oddi wrth y Lladin. Ond parhaodd y clerigwyr Llydaweg i ddefnyddio’r Lladin.
Llydaweg a Chymraeg Modern: o ddiwedd y 16eg ganrif
Roedd hyn yn gyfnod o ddirywiad i’r Llydaweg a’r Gymraeg. Roedd diwedd annibyniaeth ac arwyddo’r Deddfau Uno yn rhannol gyfrifol am hyn achos yn raddol cefnodd yr uchelwyr ar eu hiaith a’u diwylliant.
Ond roedd digon o resymau eraill dros y dirywiad, a oedd yn union yr un fath yng Nghymru ac yr ydoedd yn Llydaw. Roedd Lloegr, fel Ffrainc, eisiau dinistrio’r diwylliant Celtaidd a oedd yn cael eu hystyried ganddynt yn gyntefig ac yn anniddorol.
Ni ddysgwyd un o’r ddwy iaith yn yr ysgolion a chyfrwng y dysgu oedd Saesneg neu Ffrangeg gan y gwaharddwyd y Gymraeg a’r Llydaweg rhag cael eu siarad yn yr ysgolion. O ganol y 19eg ganrif defnyddiwyd teclyn yn erbyn y plant a oedd yn anufudd i’r gwaharddiad hwn. Rhoddwyd y teclyn (carreg fach, esgid fach bren neu darn o bren) i’r plentyn cyntaf a glywyd yn siarad yn yr iaith waharddedig. Yr unig ffordd yr oedd y plentyn hwnnw yn gallu cael gwared o’r teclyn oedd trwy ei roi i blentyn arall a oedd wedi gwneud yr un “drygioni”. Cosbwyd y plentyn a oedd â’r teclyn yn ei feddiant ar ddiwedd y dydd. Yng Nghymru defnyddiwyd darn o bren gyda’r llythrennau WN, am “Welsh Not”. Gwisgwyd y pren o amgylch y gwddf.
Yn hanesyddol...
* Yng Nghymru…
Pan wahanodd Harri’r VIII oddi wrth Eglwys Rhufain penderfynodd gysylltu Cymru a Lloegr mewn termau gwleidyddol, gan rhoi’r un hawliau i’r Cymry ag oedd gan y Saeson. Gwnaeth hyn hi’n haws i gryfhau’r ffiniau morwrol. Penderfynodd rai uchelwyr Cymreig gefnu ar yr iaith a’r diwylliant Cymraeg er mwyn cael y cyfle i gael eu dyrchafu a throi’n Saeson. Ond nhw oedd noddwyr y diwylliant Cymraeg a nawr daeth y diwylliant hwnnw yn eiddo’r bobl gyffredin gan roi hunaniaeth iddynt.
Gyda’r chwyldro diwydiannol yn y 19eg ganrif symudodd llawer o bobl o ardaloedd gwledig i ardaloedd diwydiannol. Daeth y Gymraeg, a oedd yn cael ei siarad yn ardaloedd gwledig rhan fwyaf, i’r ddinas gyda hwy. Roedd dau brif reswm am y rhain: yr iaith Gymraeg a’r anghydffurfiaeth crefyddol a oedd yn gwrthod y sefydliad Anglicanaidd. Roedd yr awdurdodau Saesneg yn credu y dylai’r ddau beth gael eu lladd.
Yn 1868, cyflwynwyd pleidleisio cudd. Arweiniodd hyn at ethol cefnogwyr y diwylliant Cymraeg achos nid oedd neb yn ofni dial dim mwy.
* Yn Llydaw…
Ar ôl y ddeddf Uno dirywiodd y Lydaweg gan nad oedd yn cael ei ddysgu yn yr ysgolion ac mi ddatblygodd i fod yn iaith lafar yn unig. Diolch i’r clerigwyr a oedd yn parhau i’w defnyddio mewn gwasanaethau ac fel cyfrwng dysgu, parhaodd yr iaith i gael ei defnyddio gan y dosbarth gweithiol.
Yn dilyn y chwyldro Ffrengig, Ffrangeg oedd unig iaith swyddogol y wlad. Serch hynny, er mwyn sicrhau fod pawb yn gwybod am y Cyfansoddiad a’r deddfau ac yn eu deall, cyfieithwyd hwy i bob iaith a siaredir yn Ffrainc. O hynny ymlaen datblygodd llywodraeth Ffrainc bolisïau a oedd yn elyniaethus i fodolaeth yr ieithoedd hynny
Yn y 19eg ganrif, sefydlwyd mudiad i adfywio’r Llydaweg. Enghreifftiau o hyn oedd Le Gonidec (1775-1838), a ysgrifennodd “Grammaire celto-bretonne” (Gramadeg Celto-Breton) a “Dictionnaire Celto-Breton” (Geiriadur Celto-Breton), a De La Villemarqué (1815-1895), gyda’i gasgliad o ganeuon poblogaidd o’r enw “Barzaz-Breiz”. Tueddiad y cyfnod oedd i buro’r Llydaweg drwy ei gwaredu o eiriau Ffrangeg ac atgyfodi hen eiriau a chreu rhai newydd lle bo’r angen.
Ar ddiwedd y ganrif, gwnaeth deddfau Jules Ferry orchymyn ysgolion i fod yn seciwlar, am ddim ac yn orfodol (1880-1883) a gorfodi Ffrangeg fel y cyfrwng dysgu. Yn 1902 gwaharddodd Combes offeiriadon rhag cynnal gwasanaethau yn Llydaweg. Collodd y rhai anufudd gefnogaeth ariannol a thynnwyd cydnabyddiaeth y wladwriaeth oddi wrthynt.